Lansiwyd Rhwydwaith Eiriolaeth Powys gyda’r nod o hyrwyddo gwell cydweithredu ar draws sefydliadau gyda’r prif ddiben o gyflenwi gwasanaeth eiriolaeth neu sy’n darparu amrediad o wasanaethau, gan gynnwys eiriolaeth. Mae aelodau’r rhwydwaith yn darparu gwybodaeth, cyngor a diweddariadau ar yr hyn sy’n digwydd ym maes Eiriolaeth ar draws Powys, ar draws pob oedran.