Coleg Adfer-Cynllun gofal a thriniaeth
Cynllun gofal a thriniaeth
Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth
iechyd meddwl cymunedol, staff a gofalwyr
Sesiwn brynhawn y Coleg Adfer
Dyddiad:Dydd Mercher 25 ain
Chwefror Amser:2-4.30yp
Lleoliad: Aberhonddu
Beth yw pwrpas y sesiwn:
Mae cwrs y Cynllun Gofal a Thriniaeth (CGT) yn cynnig cyfle gwych i unrhyw un sydd am gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o lunio cynlluniau gofal a
thriniaeth gyda’i gilydd o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Powys.
Mae croeso i bawb, ni waeth a ydych yn ddefnyddiwr gwasanaeth, yn berson â phrofiad byw, yn glinigwr, yn aelod o’r teulu neu’n ofalwr.
Mae’r cwrs yn mynd i’r afael â hawliau cyfreithiol defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, beth yw CGT a beth nad ydyw, a phwysigrwydd cynhyrchu CGT gyda’i gilydd i adlewyrchu nodau adferiad y defnyddiwr gwasanaeth. Mae’n cynnwys enghreifftiau o brofiadau gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau o CGT ac yn cynnig cyfleoedd i drafod ac ystyried.
Beth i’w ddisgwyl:
Mae’r sesiwn hon yn rhad ac am ddim.
Grŵp bach fydd hwn hyd at uchafswm o 12 o bobl.
Mae’r bobl yn y grŵp hwn yn cynnwys:-
pobl gyda phrofiad byw o heriau iechyd meddwl,
pobl sy’n cefnogi neu’n gofalu amdanynt, ar gyflog neu’n ddi-dâl – gan gynnwys gweithwyr iechydmeddwl proffesiynol
Bydd y seddi ar gael wrth fwrdd. Rydym yn ceisio diwallu anghenion pawb gyda gweithgareddau ystyriol ar gael i’r rhai sy’n eu hoffi neu sydd eu hangen.
Bydd dau berson yn arwain y grŵp – un gyda phrofiad o gael cynlluniau gofal a thriniaeth, a gweithiwr proffesiynol sydd â phrofiad o ysgrifennu cynlluniau gofal a thriniaeth gyda phobl.
Bydd cyflwyniadau byr ar y sgrin, cyn y trafodaethau.
Os oes unrhyw beth rydych chi eisiau ei wybod yn arbennig, dewch gyda chwestiynau i’r grŵp.
Nid oes rhaid i chi rannu eich profiadau personol os nad ydych chi eisiau.
Rydych chi’n rhydd i symud o gwmpas os oes angen yn ystod y sesiwn.
Mae lle i’ seibiant’ os oes ei angen arnoch ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn.
Bydd egwyl o 15 munud yng nghanol y sesiwn gyda the, coffi a bisgedi yn cael eu darparu.
Gallwch adael unrhyw bryd.
Does dim rhaid i chi siarad os nad ydych chi eisiau.
Am ragor o wybodaeth neu i fachu lle cysylltwch â:-
Penny Gripper
E-bost: Penny.Gripper2@wales.nhs.uk
Ffôn: 07754 452905
Sganiwch y cod QR i gofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein
https://forms.office.com/e/LsSbbZGX4z