Mai 26, 2022

Mae Partneriaeth a Datblygu Iechyd Meddwl Powys yn recriwtio Cynrychiolydd newydd ar gyfer Gofalwyr Iechyd Meddwl i helpu siapio gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhowys ar lefel strategol.
Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am oruchwylio cyflenwi Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru ym Mhowys ac mae’n cynnwys yr holl sefydliadau sy’n rhan o hyn: (e.e. Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Heddlu Dyfed-Powys). Fel aelod cydradd o’r bwrdd partneriaeth, byddwch yn helpu sicrhau y caiff lleisiau defnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr eu clywed yn ystod y broses o wneud penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y sir.
Cynhelir 4 cyfarfod o’r bartneriaeth yn flynyddol, a bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn is-grwpiau eraill sy’n ystyried meysydd gwasanaeth penodol. Byddech hefyd yn casglu sylwadau a phrofiadau gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau eraill mewn cyfarfodydd, er mwyn cynrychioli barn pobl ledled y sir. PAVO fydd yn cefnogi ac yn hwyluso’r cynrychiolydd.
Os hoffwch wybod mwy, cysylltwch ag Owen Griffkin o PAVO dros ebost: owen.griffkin@pavo.org.uk