Mai 23, 2024

Cyrsiau ar-lein am ddim i helpu gydag effaith emosiynol cyflyrau iechyd hirdymor gan gynnwys poen gronig a chlefyd y galon ar gael nawr i drigolion Powys gan GIG Cymru.

Mae tua 40% o bobl ag anhwylder iselder a gorbryder hefyd gyda chyflyrau iechyd hirdymor, yn ôl ymchwil y GIG.

Gall rheoli salwch cronig neu hirdymor arwain at straen, arwahanu cymdeithasol, hunanhyder isel a phroblemau cysgu.

Yn eu tro, gall materion iechyd meddwl ei gwneud hi’n anoddach fyth ymdopi â chyflyrau corfforol.

Mae gan blatfform therapi digidol SilverCloud gyfres o raglenni sy’n mynd i’r afael ag iselder a gorbryder sy’n gysylltiedig â’r tri cyflwr iechyd hirdymor, sef:

Cyflyrau’r ysgyfaint

Clefyd coronaidd y galon

Poen gronig

Mae’r rhaglenni 12 wythnos wedi’u teilwra ar gyfer pobl ym Mhowys sy’n 16+ oed. Maent ar gael 24-7 a gellir eu cyrchu unrhyw bryd, unrhyw le, ar ffôn symudol, cyfrifiadur neu lechen, trwy atgyfeiriad gan feddyg teulu Powys neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Caiff cynnydd ei fonitro gan gefnogwyr hyfforddedig, sy’n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.

Mae’r cyrsiau’n defnyddio technegau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ac yn anelu at arfogi cyfranogwyr â gwell dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng eu cyflwr a’u hiechyd meddwl.

Maent yn cynnwys cyngor ymarferol ar roi hwb i hwyliau a chymhelliant, rheoli poen a herio rhai o’r ymddygiadau negyddol a allai gyd-fynd â chyflyrau iechyd hirdymor.

Maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd mwy hyblyg o feddwl – nid yn unig mewn perthynas â salwch unigolion, ond mewn agweddau eraill ar eu bywyd hefyd.

Dywedodd Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect gwasanaeth CBT ar-lein: “Mae iechyd corfforol a meddyliol yn gysylltiedig.

“Gall delio â gofynion ychwanegol o fyw gyda cyflyrau iechyd hirdymor effeithio ar iechyd meddwl, tra gall hwyliau isel a gorbryder ei gwneud hi’n anoddach ymdopi yn gyffredinol.

“Profwyd bod y rhaglenni hyn yn effeithiol – maen nhw’n grymuso cleifion gyda phecyn cymorth iechyd meddwl i’w helpu rheoli’r heriau emosiynol sy’n gysylltiedig â’u salwch yn well.”

Dylai trigolion Powys drafod atgyfeirio gyda’u meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

I ddysgu mwy am SilverCloud, ewch i: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-meddwl-oedolion-a-phobl-hyn/tyg-ar-lein-silvercloud/

Am gymorth ychwanegol, e-bostiwch Silver.Cloud@wales.nhs.uk