Gor 28, 2022

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Gymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Cefndir yr ymchwiliad

Codwyd mater iechyd meddwl mewn addysg uwch gan nifer o randdeiliaid fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor i’r blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. Roedd hefyd yn fater a ystyriwyd fel rhan o waith craffu’r Pwyllgor ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a nododd y Pwyllgor eu bwriad i ailedrych ar y mater. Yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2022, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad yn edrych ar effeithiolrwydd y cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles myfyrwyr; yn ogystal ag effeithiau parhaus y pandemig a newidiadau i arferion addysgu a dysgu.

Cylch Gorchwyl

Maint yr angen

  • Y sefyllfa bresennol o ran iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac unrhyw heriau penodol maent yn eu hwynebu o ran eu hiechyd meddwl a’u gallu i gael cymorth.
  • A oes heriau gwahanol o ran iechyd meddwl ar gyfer gwahanol grwpiau o fyfyrwyr, ac a oes unrhyw grwpiau o fyfyrwyr mewn addysg uwch y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio’n anghymesur arnynt.
  • Yr effaith, os o gwbl, a gafodd COVID-19 yn gyffredinol ar iechyd meddwl a lles myfyrwyr ac effaith y pandemig ar y lefelau a’r math o gymorth a ddarperir gan y sector addysg uwch.

Adnabod a darpariaeth

  • Pa mor effeithiol yw darparwyr addysg uwch wrth hyrwyddo ethos o iechyd meddwl, a llesiant da cyffredinol i bob myfyriwr, ac a yw hyn yn rhan annatod o’r profiad dysgu ac o ryngweithio â staff.
  • Pa mor effeithiol yw’r sector o ran sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hadnabod yn gynnar os oes arnynt angen cymorth unigol wedi’i dargedu.
  • Pa mor effeithiol y mae’r sector addysg uwch a’r GIG yn gweithio gyda’i gilydd i roi’r cymorth iechyd meddwl cywir i fyfyrwyr unigol ar yr adeg ac yn y lleoliad y mae ei angen arnynt.
  • A oes problemau penodol o ran mynediad at gymorth iechyd meddwl y GIG, er enghraifft effaith newid meddygon teulu yn amlach; bod llawer o fyfyrwyr ar oedran lle maent yn trosglwyddo o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc i wasanaethau iechyd meddwl oedolion; unrhyw broblemau o ran rhannu data.
  • Pa mor effeithiol yw gwaith y sector addysg ôl-16 yn fwy eang i hybu iechyd meddwl da, yn enwedig o ran pontio.

Polisïau, deddfwriaeth a chyllid Llywodraeth Cymru

  • Pa mor effeithiol y mae trefniadau polisi, ariannu a rheoleiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud.
  • Yng nghyd-destun y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), sut olwg fyddai ar ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant mewn addysg ôl-16, a beth fyddai rôl darparwyr addysg uwch a gofal iechyd.
  • Sut y dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr mewn addysg uwch, ac yn y sector addysg drydyddol yn fwy eang.

Argymhellion ar gyfer newid

  • A oes unrhyw argymhellion y dylai’r Pwyllgor eu gwneud.

Casglu tystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ym mis Medi 2022. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

Ym mis Medi bydd y Pwyllgor yn lansio arolwg ar-lein ar gyfer myfyrwyr. Yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref, byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws i drafod yr ymchwiliad yn fanwl gyda myfyrwyr. Fel rhan o’r gwaith ymgysylltu hwn, byddwn yn dod i wybod am brofiadau’r rheini sy’n fyfyrwyr ar hyn o bryd, a’r rheini a fu’n fyfyrwyr yn ddiweddar, o gymorth o ran llesiant; y prif heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu; effaith iechyd meddwl ar eu profiadau dysgu ac addysg uwch; a pha welliannau yr hoffent eu gweld yn cael eu gwneud.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2023. Bydd hyn yn caniatáu amser i’r Pwyllgor ystyried canfyddiadau gwaith Senedd Ieuenctid Cymru; ac adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2022. Gallwch rannu eich barn â’r Pwyllgor drwy ymateb i’n hymgynghoriad.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad.

Cymorth

Mae’r arolwg hwn yn ymwneud â phwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth ar ôl llenwi’r arolwg, rydym yn argymell y dylech gysylltu â’r elusennau canlynol:

Childline: 0800 1111
Meic Cymru: 0808 80 23456
Mind Cymru: 0300 123 33 93 neu info@mind.org.uk
Hafal : 01792 816 600/832 400 neu e-bostiwch hafal@hafal.org
Beat Cymru: 0808 801 0433
Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol (CALL): 0800 13 27 37 neu tecstiwch ‘help’ i 81066
Samariaid: 116 123

Bydd yr elusennau hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.

Ymgynghoriadau