Gor 4, 2023

Galwad ar bob gwirfoddolwr ym maes iechyd meddwl…

Ydych chi’n ymgymryd â rôl wirfoddoli mewn lleoliad iechyd meddwl, e.e. cynorthwyo tîm iechyd meddwl cymunedol neu weithio mewn lleoliad clinigol?

Fel rhan o’n cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn awyddus i
glywed gan unrhyw un sy’n rhoi o’u hamser i wirfoddoli ochr yn ochr â’n gweithlu iechyd meddwl.

Rydym yn cydnabod bod gwirfoddolwyr yn cael effaith gadarnhaol aruthrol ar ddarpariaeth ein gwasanaethau iechyd meddwl a hoffem ddathlu enghreifftiau o’r dylanwad cadarnhaol hwnnw.

Hoffem gasglu astudiaethau achos o bob cwr o Gymru y gallwn eu dwyn ynghyd ar ffurf digwyddiadau dathlu.

Os hoffech gael eich cynnwys, anfonwch gyflwyniadau o’r canlynol i’r mewnflwch hwn: HEIW.MentalHealthWorkforcePlan@wales.nhs.uk.

Dylai’r cyflwyniadau fodloni’r amodau hyn:
• Dim mwy nag 800 o eiriau a dwy ochr A4
• Dylent gynnwys gwybodaeth am bwy y buoch yn gweithio â hwy, pa gymorth roeddech yn ei ddarparu a beth oedd y deilliannau cadarnhaol
• Os yn bosibl, carem glywed unrhyw syniadau ynghylch sut y gellid addasu’r dulliau hyn mewn lleoliadau eraill
• Mae croeso i chi gynnwys lluniau a geirdaon cleifion os ydynt wrth law gennych!
• Ymatebion erbyn dydd Gwener 4 Awst