Rydym yn falch o gyhoeddi lansio ein Cwrs “Perthynas Rhiant-Babi a Iechyd Meddwl Babanod”.
Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr arbenigol ac mae wedi’i anelu at bobl sy’n gweithio gyda rhieni, babanod a theuluoedd, mae hyn yn cynnwys:
- Ymwelwyr iechyd
- Ymarferwyr iechyd meddwl
- Gweithwyr cymdeithasol amddiffyn plant
- Ymarferwyr y blynyddoedd cynnar
- Swyddogion heddlu
- Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
- Nyrsys a Bydwragedd
Fe’i cynlluniwyd i helpu’r rhai sy’n cwblhau’r cwrs, meddwl am eu rolau a’u cyfrifoldebau proffesiynol mewn perthynas â rhieni a babanod, cynnal asesiad brysbennu cyflym i nodi pryder ac ymgysylltu â chydweithwyr gan ddefnyddio iaith broffesiynol gyffredin.
Modiwl 1: yn cyflwyno’r hyfforddiant.
Modiwl 2: yn ymdrin â datblygiad critigol cynnar yr ymennydd a phwysigrwydd rheoleiddio emosiynol yn ystod y flwyddyn gyntaf o fywyd.
Modiwl 3: yn disgrifio nodweddion gofal rhieni da sy’n hyrwyddo twf ymennydd iach a datblygiad cymdeithasol-emosiynol pwysig, gan arwain at wydnwch, gallu ar gyfer perthnasoedd iach a lles corfforol a meddyliol ar draws oes.
Modiwl 4: yn ymdrin â ffactorau cyffredin sy’n peryglu gofal rhieni da, arddulliau ymlyniad ansicr a’r hyn maen nhw’n ei awgrymu am arddull gofal gan rieni a thrawma datblygiadol.
Cyrchwch y dysgu trwy Y Ty Dysgu: The Parent-Infant Relationship and Infant Mental Health – Ytydysgu Heiw
Rydym hefyd wedi cynnwys y ddolen i’n canllaw cofrestru yma how to register – HEIW YTD Portal
Cysylltwch â HEIW.MentalHealthWorkforcePlan@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth