Mae Sally Houghton-Wilson, Cynrychiolydd Gofalwyr Unigol – Iechyd Meddwl, yn dweud wrthym 3 rheswm pam ei bod yn hoffi bod yn gynrychiolydd gofalwyr argyfer gwasanaethau iechyd meddwl:
- Mae’n rhoi cyfle i mi ddysgu sut mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu rheoli ac am newidiadau a allai ddigwydd.
- Mae’r rôl yn rhoi llais i ni dros y bobl hynny yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu helpu i rannu eu barn am yr hyn a fyddai’n eu helpu. Mae hyn yn bwysig iawn, yn enwedig wrth ddelio â materion gyda pherthnasau cleifion. Mae’n dda awgrymu ffyrdd gwahanol o weithio gyda nhw.
- Ac mae dysgu am sefydliadau, a syniadau a gwybodaeth gan gynrychiolwyr eraill, hefyd yn helpu gyda’r teimladau o unigedd sy’n dod wrth ddelio â’r bobl rydym yn gofalu amdanynt a’u hiechyd meddwl nhw a’n hiechyd meddwl ein hunain.
Mae Partneriaeth a Datblygu Iechyd Meddwl Powys yn recriwtio Cynrychiolydd newydd ar gyfer Gofalwyr Iechyd Meddwl i helpu siapio gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhowys ar lefel strategol.
Cynhelir 4 cyfarfod o’r bartneriaeth yn flynyddol, a bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn is-grwpiau eraill sy’n ystyried meysydd gwasanaeth penodol. Byddech hefyd yn casglu sylwadau a phrofiadau gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau eraill mewn cyfarfodydd, er mwyn cynrychioli barn pobl ledled y sir. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) fydd yn cefnogi ac yn hwyluso’r cynrychiolydd.
Os hoffech chi wneud cais, cysylltwch â Thîm Iechyd Meddwl PAVO drwy’r ebost mentalhealth@pavo.org.uk