Gor 18, 2022

Sefydlwyd y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (2) (T4CYP 2) yn 2015 i ystyried ffyrdd o ail-lunio, ailfodelu ac ailffocysu’r gwasanaethau lles emosiynol ac iechyd meddwl a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2019, cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymestyn y Rhaglen tan fis Mawrth 2022 gan ganolbwyntio ar:

  • Cymorth Cynnar a Chymorth Lefel Uwch
  • Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • Gwasanaethau Niwroddatblygiadol

Bydd y Rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022 yn unol â’r dyddiad cau gwreiddiol y cytunwyd arno ar ôl i’r rhaglen gyflawni ei chylch gwaith:

  • Cyd-gynhyrchu Fframwaith NYTH NEST
  • Hwyluso dealltwriaeth a gweithrediad cynnar Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (RPB)
  • Cyd-ddatblygu gweledigaeth hirdymor o ran niwroddatblygiad
  • Cefnogi ymhellach y gwaith o weithredu llwybrau a safonau cenedlaethol ar gyfer niwroddatblygiad

Mae lle, fodd bynnag, ar gyfer rhagor o waith etifeddol dan ddau faes:

Gwasanaethau Niwroddatblygiadol 

Er mwyn ystyried yr adolygiad o’r galw a’r gallu ym mis Mawrth 2022, gyda’r nod o ddatblygu gwelliant a chymorth yn y maes hwn yn y dyfodol

Fframwaith NYTH NEST

Gweithio gyda swyddog arweiniol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn parhau i gefnogi gwaith Fframwaith NYTH NEST drwy sefydlu sesiynau ymarfer cymunedol ffurfiol.

Gan gofio hynny, mae’r Rhaglen wedi’i hymestyn i ganolbwyntio’n llwyr ar y meysydd hyn rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi 2022.

Bydd staff allweddol y tîm yn parhau yn eu swyddi er mwyn helpu gyda’r ymdrech gydweithredol hon.

Bydd y cynllun gwaddol yn cael ei lunio gyda’n Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr ac aelodau’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol.

Hefyd, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid allweddol hirsefydlog a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sefydlu’r cynlluniau pontio a nodi’r pwyntiau cyswllt arweiniol newydd gyda’r nod o sicrhau na fyddwn yn colli momentwm.

Llywodraethu

Bydd Bwrdd Rhaglen amlasiantaethol, o dan gadeiryddiaeth Carol Shillabeer (Prif Weithredwr y GIG ac arweinydd Cymru gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl), yn goruchwylio cynnydd Rhaglen T4CYP (2).

Mwy yma – https://cydweithrediad.gig.cymru/rhwydweithiau/rhwydwaith-iechyd-meddwl-cymru/law-yn-llaw-dros-blant-a-phobl-ifanc-2/