Gor 18, 2022

Gwerthusiad o’r strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (Together for Mental Health / T4MH) a Beth am Siarad â Fi? (Talk To Me Too / T2M2):

Cyfweliadau defnyddwyr gwasanaeth sy’n oedolion

Gwahoddiad a gwybodaeth i gyfranogwyr

Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymchwil i gasglu eich adborth ar y gwasanaethau iechyd meddwl yr ydych wedi’u defnyddio fel rhan o’r gwerthusiad o’r strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (Together for Mental Health / T4MH) a Beth am Siarad â Fi? (Talk to me Too / T2M2).

Cyn i chi benderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr ymchwil, mae’n bwysig eich bod yn deall beth fydd hyn yn ei olygu. Darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus. Os oes unrhyw beth yn aneglur, neu os oes angen unrhyw wybodaeth arall arnoch, gofynnwch (ceir y manylion cyswllt ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon).

Beth yw pwrpas yr ymchwil?

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Opinion Research Services (ORS) i werthuso’r Strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (Together for Mental Health / T4MH) a Beth am Siarad â Fi? (Talk to me Too / T2M2).

Nod y gwerthusiad yw darganfod pa mor effeithiol fu’r strategaethau, a beth ddylai’r strategaethau nesaf ei gwmpasu.

Mae Opinion Research Services (ORS) yn gwmni ymchwil annibynnol. Maen nhw hefyd yn siarad â defnyddwyr gwasanaeth eraill a staff iechyd meddwl fel rhan o’r ymchwil.

Pam ydych chi’n fy ngwahodd i gymryd rhan?

Rydym wedi gofyn i chi siarad â ni oherwydd eich bod yn defnyddio neu wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru.

Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Chi sydd i benderfynu a ydych chi’n cymryd rhan. Cadarnhewch a ydych am gymryd rhan drwy anfon e-bost at ORS: togetherformh@ors.org.uk.

Rydych chi’n rhydd i newid eich meddwl am gymryd rhan unrhyw bryd heb roi rheswm. Ni fydd yn rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau eu gwneud. Os byddwch yn newid eich meddwl, cysylltwch â’r rheolwr prosiect Liz Puntan, rheolwr y prosiect, i roi gwybod iddi (manylion isod), erbyn 31 Gorffennaf 2022.

Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?

Gofynnir i chi gymryd rhan mewn cyfweliad un-i-un gydag ymchwilydd ORS. Bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal ar Teams, neu dros y ffôn. Bydd yn cymryd tua awr. Os ydych yn cytuno, hoffem recordio’r cyfweliad i wneud yn siŵr ein bod yn clywed popeth sydd gennych i’w ddweud.

Bydd y cyfweliad yn casglu eich barn ar y gwasanaethau a ddefnyddiwyd gennych: beth oedd yn dda amdanyn nhw, a beth allai fod yn well; y staff sydd wedi eich helpu; a beth ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Sut byddwch chi’n defnyddio fy adborth?

Byddwn yn storio eich manylion cyswllt a’r nodiadau a’r recordiad o’r cyfweliad ar weinydd diogel ORS a byddwn yn eu dileu dri mis ar ôl diwedd y prosiect. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR).

Dim ond aelodau tîm prosiect ORS a enwyd fydd yn gallu gweld eich manylion cyswllt, darllen y nodiadau, a chlywed y recordiad. Ni fyddwn yn storio unrhyw wybodaeth sy’n dangos pwy ydych chi â’ch adborth.

Pan fyddwn wedi gorffen yr astudiaeth, byddwn yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar y canfyddiadau, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi ar eu gwefan.

Bydd yr adroddiad yn gwbl ddienw. Ni fyddwn yn eich enwi, lle cawsoch fynediad at wasanaethau, nac yn defnyddio unrhyw ddyfyniadau uniongyrchol a allai ddatgelu pwy ydych yn yr adroddiad.

Gweler hysbysiad preifatrwydd y prosiect am ragor o wybodaeth ar sut y byddwn yn defnyddio ac yn storio eich data.

Beth os oes problem?

Os oes gennych unrhyw bryderon am yr astudiaeth, cysylltwch â Liz yn ORS (gwybodaeth gyswllt isod) a fydd yn gwneud ei gorau i ateb eich cwestiynau.

Os ydych yn dal yn anhapus ac yn dymuno cwyno am yr astudiaeth, gallwch gysylltu â Tom Cartwright yn Llywodraeth Cymru (gwybodaeth cyswllt isod). Gallwch hefyd gwyno i’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltwch am ragor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Liz Puntan, rheolwr prosiect, ar 07917 658160 (liz.puntan@ors.org.uk).

Fel arall, gallwch gysylltu ag Uwch Swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru Tom Cartwright drwy e-bost yn tom.cartwright@llyw.cymru.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn cymryd rhan mewn cyfweliad, e-bostiwch ORS: togetherformh@ors.org.uk. Yna byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau ar gyfer y cyfweliad. Llenwch hefyd y ffurflen ganiatâd a roddwyd i chi gyda’r daflen wybodaeth hon a’i e-bostio yn ôl at ni.

T4MH T2M2 Taflen Gwybodaeth Oedolion

T4MH T2M2 Taflen Gwybodaeth Pobl Ifanc

T4MH T2M2 Taflen Gwybodaeth Rhiant