Os ydych chi’n chwilio am gymorth a chyngor brys

…. oherwydd eich bod yn poeni am eich iechyd meddwl eich hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, gallwch droi at nifer o leoedd i gael cymorth.

  • Os ydych yn chwilio am gymorth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl a ddarperir gan y GIG, yn y rhan fwyaf o achosion, gofynnir ichi gysylltu â’ch Meddyg Teulu am gymorth yn y lle cyntaf. Os nad yw manylion cyswllt eich Meddyg Teulu gennych, maent ar gael yma.
  • Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch ffonio C.A.L.L. (Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando). Llinell gymorth sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth emosiynol am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ffoniwch nhw am ddim ar 0800 132 737 neu gellir tecstio “help” i 81066. Ymweld â gwefan C.A.L.L. fan hyn
  • GIG 111 Cymru – gwasanaeth cyngor a gwybodaeth ym maes iechyd sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. I gael cymorth iechyd meddwl brys ffoniwch 111 a gwasgwch Opsiwn 2. Cyngor gofal iechyd y gallwch ymddiried ynddo 24/7.

Os oes angen cymorth brys iawn arnoch, ac rydych yn poeni am ddiogelwch uniongyrchol eich hunan neu rywun arall , darllenwch isod am fwy o awgrymiadau o ran sut i gael cymorth brys.

Daw’r rhan fwyaf o’r wybodaeth yma (er bod y rhifau’n gysylltiedig â Phowys) gan Mind, sefydliad cenedlaethol sy’n darparu gwybodaeth a chyngor.  Gallwch eu ffonio ar 0300 123 3393 neu cymerwch gip ar eu gwefan fan hyn.

Rwyf yn meddwl am hunanladdiad, a chredaf fy mod mewn perygl uniongyrchol

  • I siarad gyda rhywun a hyfforddwyd i wrando, cysylltwch â’r Samariaid ar 116 123 (gellir ffonio am ddim). Maen nhw ar agor 24 awr y dydd.
  • Os oes gennych gerdyn argyfwng a baratowyd ymlaen llaw a seilir ar brofiad blaenorol, ewch i nôl y cerdyn nawr, a chysylltwch â’ch unigolion cymorth.

Rwyf wedi cymryd gorddos neu rwyf ar fin achosi niwed difrifol i’m hun neu ladd fy hun

  • Ffoniwch 999. Does dim tâl am ffonio. Gallwch ofyn i aros ar y lein wrth ddisgwyl am gymorth i’ch cyrraedd.
  • Fel arall, gallwch fynd i’r Adran Brys a Damweiniau agosaf (A&E).

Os ydych chi’n byw ym Mhowys hwyrach y bydd y ddolen hon at ysbytai gydag Adran Damweiniau a Brys o ddefnydd.
Neu ffoniwch GIG 111 Cymru.

Rwyf yn ofni fy mod ar fin achosi niwed i neu ladd rhywun arall

Mae rhywun rwyf yn ei adnabod mewn perygl uniongyrchol o achosi niwed difrifol i/lladd ei hun neu o beryglu rhywun arall

  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am gymorth.

Gwybodaeth bellach

Os nad yw’r sefyllfaoedd uchod yn berthnasol ichi ar hyn o bryd, hwyrach y bydd rhyw gymorth arall yn fwy priodol.  Am fwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod at:

Dolen at sefydliadau Iechyd Meddwl lleol

Dolen at sefydliadau Iechyd Meddwl cenedlaethol

Dolen at wasanaethau lleol eraill

Dolen at wybodaeth gan Mind ar hunanladdiad, gwasanaethau argyfwng, pyliau panig

Hefyd gellir lawrlwytho taflenni defnyddiol fan hyn:

Teimlo eich bod ar y dibyn

Teimlo bod pethau’n eich gorlethu

Gallwch ymdopi