Cyngor Cleifion Powys

Mae Cyngor Cleifion Powys yn brosiect a hwylusir gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) a’i nod yw rhoi llais i gleifion, sydd ar hyn o bryd yn Uned Felindre, Ysbyty Bronllys, Powys, sy’n cael cynnig gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol acíwt.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd, i gleifion yn unig, sy’n rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn ar y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn tra byddant yn yr ysbyty. Yna caiff y safbwyntiau hyn eu trosglwyddo’n ddienw i staff rheoli’r ward a’r ysbyty, yn ogystal ag uwch staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PtHB), fel y gellir dod o hyd i atebion.

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â Chyngor y Cleifion ac ymuno â ni bob mis ar y ward. Os ydych chi’n berson tosturiol sydd â phrofiad o fod yn glaf ar ward iechyd meddwl acíwt neu os ydych chi wedi gofalu am rywun sydd wedi gwneud hynny, mae croeso i chi gymryd rhan –

 

Dilynwch y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb a bydd ein swyddog Cyfranogiad Iechyd Meddwl mewn cysylltiad!

13 + 13 =